Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2013 i’w hateb ar 29 Ionawr 2013

 

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0872(FM)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch sut y mae ei bolisïau yn gwella addysg yn Nwyrain De Cymru.OAQ(4)0870(FM)

 

3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu gwerth am arian mewn prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled Cymru. OAQ(4)0873(FM)

 

4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Ardaloedd Menter yng Nghymru. OAQ(4)0877(FM)

 

5. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y teithiau a gymerir ar fysiau neu ar drenau ledled Cymru.    OAQ(4)0880(FM)

 

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig ym mhob injan dân.  OAQ(4)0875(FM)

 

7. David Rees (Aberafan):Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0882(FM)

 

8. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol at economi Cymru. OAQ(4)0871(FM)

 

9. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio tai yn 2013. OAQ(4)0878(FM)

 

10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Rhaglen Lywodraethu.OAQ(4)0869(FM)

 

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i Faes Awyr Caerdydd o Orllewin De Cymru.OAQ(4)0874(FM)

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Sut y mae myfyrwyr o Ogledd Cymru sy’n byw mewn ardaloedd a arferai fod yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn gallu cael cyllid o dan y rhaglen Ymestyn yn Ehangach. OAQ(4)0881(FM)

 

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a yw cynllunio gofodol morol yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0883(FM)W

 

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gydnabyddiaeth a roddir i’r unigolion hynny a fu’n gwasanaethu Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. OAQ(4)0876(FM)

 

15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru yn 2013. OAQ(4)0879(FM)